27879980_s

Grantiau Cyllid

Ni does dyddiad cau i dderbyn ceisiadau a bydd pob cais yn cael ei ystyried ar sail teilyngdod a’i fod yn bodloni’r meini prawf isod. Adnoddau cyfyngedig sydd ar gael, a chynhelir adolygiad i ystyried pa gyllid sy’n weddill, a hyn fydd yn penderfynu ar y symiau a geir eu dyfarnu yn y deuddeg mis nesaf. Cafodd y cynllun grant galluogi Wrecsam Ynghyd (y cynllun) ei sefydlu gan y Cyngor fel o ganlyniad i’n hymrwymiad i gefnogi cymunedau i ddod ynghyd i gymryd rhan weithredol wrth ddarparu gwasanaethau. Mae’r adnodd sydd ar gael ar gyfer y cynllun yn gyfyngedig, gydag arian o’r neilltu mewn cronfa wrth gefn. Bydd adolygiad blynyddol yn pennu’r cyfanswm sydd ar gael yng nghronfa’r cynllun am y 12 mis canlynol. Bydd y panel yn cyfarfod bob tri mis i ystyried ceisiadau, gan ddilyn yr amserlen isod:

2016/17
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Bydd panel yn cyfarfod yn ystod trydedd wythnos: Ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o’r canlyniad yn ystod trydedd wythnos:
Dydd Mercher 30 Tachwedd, 2016 Rhagfyr 2016 Ionawr 2017
Dydd Mawrth 28 Chwefror 2017 Mawrth 2017 Ebrill 2017
Dydd Mercher 31 Mai 2017 Mehefin 2017 Gorffennaf 2017
Dydd Iau 31 Awst 2017 Medi 2017 Hydref 2017
Dydd Iau 30 Tachwedd 2017 Rhagfyr 2017 Ionawr 2018

Bydd pob cyflwyniad yn cael ei ystyried ar sail teilyngdod a chan gyfeirio at y meini prawf a nodir isod. Disgwylir y bydd unrhyw brosiect llwyddiannus yn:

  • Cynnig rhywbeth newydd – ni cheir cyllid ar gyfer gweithgareddau “busnes fel arfer”.
  • Gallu dangos manteision gwirioneddol i’r gymuned ehangach
  • Cefnogi’r ethos gwirfoddolwyr
  • Annog cydlyniant cymunedol
  • Bod yn hunangynhaliol, h.y. parhau heb gymorth ariannol pellach, unwaith y bydd yr arian grant / benthyciad yn cael ei wario. Wrth ystyried hyn, ni roddir cyllid ar gyfer costau gweithredu, fel rhent a chyflogau, neu ar gyfer digwyddiadau unigryw

Bydd y broses ddyfarnu yn cymryd pob un o’r pum maen prawf uchod i ystyriaeth yn gyfartal; bydd y rhain yn ffurfio sail y matrics sgorio a fydd yn arwain y Swyddogion ac Aelodau’r Cyngor wrth benderfynu ar ddyfarniadau. Rhaid i bob cais gael ei gefnogi a’i lofnodi gan y Cyngor Cymuned mwyaf priodol. Mae’n rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu adroddiad i fodloni’r Cyngor Cymuned bod yr arian wedi cael ei wario yn briodol.

Wrecsam Ynghyd “Grantiau Cyllid”

Dyfarniadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Gall dyfarniadau oddi wrth y cynllun gan y Cyngor gymryd un o ddwy ffurf:-

  • Grant hyd at werth bum mil o bunnau (£5,000) NEU
  • Benthyciad di-log gwerth hyd at ugain mil o bunnau (£20,000) yn ad-daladwy dros gyfnod sy’n gymesur â natur y cynllun, a’r manteision sydd i’w deillio o’r cyllid. Disgwylir na fyddai unrhyw gyfnod ad-dalu fel arfer yn fwy na phum mlynedd, ond ni fydd hyn yn cael ei orfodi’n llym lle gellir dangos byddai gwneud hynny yn gwneud y cynnig yn anymarferol.
  • Dim ond un cais llwyddiannus yn unig gall Gyda’n Gilydd yn Wrecsam ei dderbyn gan sefydliad unigol mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
  • Os oes angen cyngor arnoch am lenwi’r ffurflen gais, neu ar unrhyw elfennau o’r broses gyflwyno, cysylltwch â together@wrexham.gov.uk.

Crynodeb Ceisiadau Llwyddiannus

Cliciwch yma am grynodeb o’r holl gynigion a dderbyniodd y panel ariannu.

Cliciwch yma os gwelwch yn dda am stori newyddion ehangu ar sut wnaeth derbynwyr llwyddiannus wedi elwa o grantiau yn 2016.

Cyngor Ariannol

Mae Llinellfusnes CBSW yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd ariannu i grwpiau cymunedol, er enghraifft, rhannu gwybodaeth am sefydliadau darparu grantiau, ac ymchwil lleol sy’n gallu cryfhau ceisiadau ariannu. Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) yn darparu gwasanaeth rhoi cyngor ariannol am ddim. Cliciwch yma i fynd at eu tudalen gyllid, sydd â dolenni at daflenni cyngor, a ffurflen ymholiadau. Byddwch yn dod o hyd i wybodaeth ar “Chwilio am Gyllid” dan ein label ‘Grwpiau’ hefyd.