Beth yw Wrecsam Ynghyd?
Mae Cyngor Wrecsam eisiau i fwy o unigolion, cymunedau a grwpiau ddod at ei gilydd i helpu i wneud gwahaniaeth.
Bydd y Cyngor yn gwneud ein ran hefyd. Wrth i gynghorau grebachu, bydd cymunedau yn tyfu.
Nod Gyda’n Gilydd yn Wrecsam yw galluogi pobl i wneud cyfraniad cadarnhaol at helpu eraill.
Bydd y Cyngor yn eich cefnogi chi i wneud hyn ac yn gweithredu fel cyswllt i’ch helpu chi i ddatblygu syniadau.
Mae’n ddull newydd i Wrecsam, ond ei brif bwrpas yw rhoi grym i gymunedau yn y Fwrdeistref Sirol i gymryd mwy o ran.
Yn unol â’r uchelgais yma, fe fydd y Cyngor yn gefnogi cymunedau i ddod ynghyd i wneud y canlynol:
- Cymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu hunain
- Cymryd rhan weithredol o ran darparu gwasanaethau
- Mynd ati i gymryd rhan yn y gwaith o ail-ddylunio gwasanaethau sy’n bwysig iddyn nhw
- Cymryd cyfrifoldeb ar y cyd dros wella ansawdd bywyd
Mae hefyd yn awyddus i sbarduno brwdfrydedd dros y canlynol:
- Creu a datblygu syniadau newydd
- Dylunio mentrau sy’n adlewyrchu anghenion cymunedau